Parisa Fouladi - Araf

Artist Cymreig Iranaidd o Gaerdydd yw Parisa Fouladi. Prif ddylanwadau ei cherddoriaeth yw Soul, Neo-Soul, Jazz a churiadau hip-hop minimalaidd. Ar ôl llwyddiant yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a pherfformiadau mewn digwyddiadau fel Tafwyl a Focus Wales, mae hi’n gyffrous iawn i gyhoeddi ei bod yn perfformio yng Ngŵyl Sŵn yn yr Hydref ac yn y digwyddiad Trawsnewid:Transform yn Aberystwyth flwyddyn nesa. Araf yw sengl gyntaf Parisa Fouladi oddi ar ei EP, bydd yn cael ei rhyddhau yn fuan. Cyfansoddodd Parisa’r gân Araf gyda’r offerynnwr a chyfansoddwr, Charlie Piercey, cyn cyflwyno’r trac i’r cynhyrchydd Krissie Jenkins (Super Furry Animals, Gruff Rhys, Cate Le Bon). Llais emosiynol a chryf dros guriadau hip-hop esmwyth gyda strwythur gwahanol i’r arfer. Mae’r gân yn gyfansoddiad soffistigedig a chilled sy’n mynd a’r gwrandäwr ar daith o emosiynau gwahanol wrth ddelio gyda thor calon ac yna darganfod gobaith unwaith eto. Mae’r gân yn son am golli eich hun mewn perthynas ag yna theimlo’n well ac yn gryf ar ôl y boen ond yn gofyn i gymryd pethau’n araf wrth ddechrau perthynas newydd. Mae ysbrydoliaeth geiriau caneuon Parisa Fouladi yn dod o’i phrofiadau ei hun a materion y byd mae’n teimlo’n gryf amdanynt. Cyfarwyddo a DOP - Jamie Walker Dylunydd Colur - Annie Maycox Dylunydd Gwisgoedd - Sophia Ingham Diolch i Plas Menai, Y Felinheli Cynhyrchydd - Krissie Jenkins Geiriau/Lyrics: Diffoddodd e’r golau yn fy nghalon Fy enaid ‘di olchi ar lan yr afon Nawr dwi’n gragen o fy hun Yn oer ar y llawr Mae’n dal i fy nychryn Diffoddodd e’r golau yn fy nghalon Fy enaid ‘di olchi ar lan yr afon Mae’n anodd gadael fynd O rywle daw y cryfder Collais i afael ar reality Amau popeth roeddwn i’n ei gredu Ond nawr mae’r golau nol Sefais yn uchel O rywle daw’r cryfder Gallwn ni fynd Gallwn ni fynd Yn araf Yn araf Yn araf Yn araf Instagram: Facebook: Trydar: Label cyhoeddi - Recordiau PIWS Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Gwasga’r botwm ’Subscribe’ TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c
Back to Top