Angel Hotel - Oumuamua

Mae’r retro-rockers Caerdydd ‘Angel Hotel’ yn ôl gyda cân heintus arall sy’n siŵr o fynd yn sownd yn eich pen. Eu trac newydd ’Oumuamua’ sy’n cael ei ganu’n gyfan gwbl yn Gymraeg, yw’r trac diweddaraf i arddangos eu gallu dwyieithog naturiol. Wedi’i disgrifio fel “teyrnged chwareus, tafod-mewn-boch i’r gwrthrych gofod dirgel“, mae’r gân yn cyfuno alawon a synths unigryw Angel Hotel gyda chwarae ar eiriau clyfar. Meddai’r canwr Siôn, “Cawsom hwyl fawr yn ysgrifennu a recordio cân am aliens, rydym wrth ein bodd yn meddwl beth allai fod allan yna, gan obeithio o bryd i’w gilydd nad ydym ar ein pennau ein hunain. Ac roedd y fideo yn hwyl i’w saethu o amgylch ein tref genedigol. Allwn ni ddim aros i bawb glywed ein hantur cosmig Gymraeg.” Ar ôl cynnydd cyson gyda senglau fel ’Key Largo’ a ’Bump’, mae Angel Hotel yn parhau i gyflwyno “tiwn ar ôl tiwn a dim arwyddion o stopio“ (). Gyda sylw gan cyson gan raglenni radio BBC, premières fideo S4C, a’u dawn ar gyfer pop chwaethus, mae’r diweddaraf gan Angel Hotel allan o’r byd! Fideo gan Rhys Davies. Geiriau/Lyrics: O ti di’ clywed am y carreg yn y gofod Omuamua Yr un nath crwydro o fydysawd tramor Omuamua A wnei di ddod a peth atebion i ni Omuamua A falle codi’r cwmwl dros fy mhen i Omuamua Well helo, shwmae - neis i gwrdda ti Hoffen ni ymlacio ar dy long ofod di Mae’r technoleg yn aruthrol nei di ddangos e i mi Beth sy’n digwydd os fi’n gwasgu’r botwm yma am wn i A wnei di gymryd fi yn bell or hên le ’ma Omuamua Blynyddoedd golau i ffwrdd or holl ddrama Omuamua I wareiddiad hyfryd yn y galaeth nesa’ Omuamua Fe glywais i ei fod yn debyg i Bethesda Omuamua Well helo, shwmae - neis i gwrdda ti Hoffen ni ymlacio ar dy long ofod di Mae’r technoleg yn aruthrol nei di ddangos e i mi Beth sy’n digwydd os fi’n gwasgu’r botwm yma am wn i Mae’r gwybodaeth yn anferthol a bach yn gymleth i mi Beth sy’n digwydd os fi’n gwasgu’r botwm yma am wn i Label cyhoeddi - Recordiau Cosh Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Gwasga’r botwm ’Subscribe’ TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c
Back to Top