Gwilym x Hana Lili - cynbohir

Mae’r band indie-pop Gwilym yn ôl gyda’u sengl newydd sbon ‘cynbohir’. ‘cynbohir’ yw’r sengl gyntaf oddi ar eu halbwm hynod ddisgwyliedig, gyda dyddiad rhyddhau wedi’i bensilio ar gyfer yr Hydref. Er ei fod yn dal yn arwyddocaol o elfennau poblogaidd y band (alawon bachog sy’n sicr o fyw yn ‘rent-free’ yn eich pen drwy’r haf) mae ‘cynbohir’ yn rhoi cipolwg ar gyfeiriad sonig newydd y pumawd. Mae’r trac yn arddangos un o sêr newydd y sîn pop yng Nghaerdydd - Hana Lili, ac mae’n cael ei ryddhau ar Fehefin 17eg, 2022 trwy’r label annibynnol Recordiau Côsh. Cynhyrchu a Cyfarwyddo - Aled Wyn Jones DOP a Cyfarwyddo - Andy Pritchard Camerau ychwanegol - Sion Gwyn a Jamie Walker Actorion - Steven Andrew a Becca Naiga LYRICS: -VERSE 1- Di’r byd ar fai, Am osod hyn o dy flaen di Ti’n un gwael am feddwl am orfeddwl llai, Byw rhwng dau. Dwi’n gaddo fydda a’i ar dy ôl di. Ma’n bryd ini gamu’m mlaen Yn groes i’r graen -PRE- Ai
Back to Top